Home
archfalhwyl

> Recent Entries
> Archive
> Friends
> User Info
> Found
> previous 20 entries

Advertisement

March 19th, 2009


09:43 am - Nawfed ar ddeg o Fawrth - 2009!
Blydi hel, dwi ddim wedi postio 'ma erstalwm. Beth sy wedi newid? Wel, dw i wedi cael fy mhriodi i Catrin - yn Gymraeg, hefyd! Mi brynwn ni dy newydd yn Nhrefechan - jyst cyn y 'economic downturn!' Dim problem, dyw prisiau yn disgyn ddim yn bwysig pan wyt ti ddim eisiau symud eto...

(Leave a comment)

July 11th, 2006


10:17 am - Unfed ar ddeg o Orffenaf
Wel, dyma fi eto. O'n i jyst rhy prysur i sgwennu ma, ond bydd rhaid i mi geisio, achos mod i ddim sgwennu digon o Gymraeg i ddal i ddysgu heb ei cholli. Heh - dw i'n meddwl bod y peth mod i jyst sgwennu yn ddwli beth bynnag. Falle mai dim meindio yw'r peth. Eniwê, dw i'n brysur iawn efo prosiect ar gyfer EyeToy ar y PS2 - does dim digon o amser i'w neud e, dim digon o gwbl. Reit, rhaid i mi neud gêm arall...

O ie, mi fydden ni'n symyd ty ar ddiwedd y mis! A bydd Catrin yn graddio (postraddio?) yfory!

(1 comment | Leave a comment)

May 23rd, 2006


09:23 am - Ail ar hugain o Fai
Mae llawer o amser wedi mynd ers i fi sgwennu 'ma. Rhaid i mi gadw'r blog yma am bethau personnol, dw i'n meddwl.. felly, beth sy'n digwydd yn fy mywyd ar hyn o bryd? Wel, gobeithio bod ni'n prynu ty yn Nhrefechan!

(Leave a comment)

March 30th, 2006


02:02 pm - Degfed ar hugain o Fawrth
Cefais i newyddion drwg ddoe - bu fy nhaid farw bore ddoe. Dw i'n teimlo yn euog, achos o'n i ddim wedi mynd i'w weld o erstalwm - efallai achos y deimlwyd y basai fo wedi cael ei ddrysu gan llawer o bobl a welodd o ddim erstalwm; ond mae'n mwy debyg achos baswn i wedi bod yn anghyfforddus iawn. Dywedodd pawb wrtha fi bod y basai fo ddim wedi fy nabod fi, ond...

O wel. Mae'n dipyn bach yn trite ond mae o'n mewn lle gwell rwan, efo ei wraig o - fuodd o ddim wedi bod yn hapus erioed ar ôl iddi hi farw saith mlynedd yn ôl. Cafodd o drafferth yn addasu pan daeth o o'r Fyddin ar ôl y Rhyfel, a phan daeth o o'r Llynges Fasnachol, a mae Nain yn ei trefnu fo a wnaeth hi'n bosib iddo fyw heb 'strwythur gorchymyn.'

Mae gen i lot o atgofion da ohono, ond dw i'n meddwl bod fy hoff fi yw mynd i Sharp's Green (Parc Cefn Gwlad Riverside erbyn hyn) a chodi tameidiau o wydr a jarau marmaled sy wedi dod o hen ffatri 'na, a siarad am y pethau fan hyn. Ar y morfeydd Gogledd Geint yw e, lle mae Dickens wedi rhoi y dechreuad enwog o'i nofel Great Expectations. Nid dyn sy wedi darllen llawer oedd o, ond wedi gwreiddio yn yr ardal, a deallodd o'r ysbryd y lle yn well na unrhywun a dw i wedi nabod erioed. Rhododd o'r dealltwriaeth i mi o beth yw e i fod yn ddyn o Geint.

(Leave a comment)

March 8th, 2006


04:42 pm
Helo! Dwi'n yma o hyd (mae na'n swnio fel cân)... wn i ddim pam dw i ddim wedi postio yma. Does dim llawer i ddweud, ond gormod i sgwennu mewn neges byr.

(Leave a comment)

December 15th, 2005


01:25 pm - Pumthegfed o Ragfyr
Ych chi'n barod am Nadolig i gyd? Be wnewch chi? Awn ni i rieni Catrin dros y Nadolig, a wedyn i fy rhieni yng Ngheint - taith mawr achos bod rhieni Catrin yn byw yng Ngogledd Cymru! Wn i ddim beth wnawn ni dros y Blwyddyn Newydd - oedd planiau, ond glywon ni mohonyn nhw ers haf.

Reit, yn ol i'r gwaith - mae coc oen o'n cysmeriaid 'ma, felly bod ni'n gweithio'n galed, neu edrych fel hyn :)

(Leave a comment)

November 20th, 2005


06:14 pm - Ugeinfed o Dachwedd
Os bydda i ddim yn ofalus, anghofia i sut mae'r tu allan yn edrych. Rhaid i fi wneud y recorder mode cyn y fory, Dydy e ddim yn siml achos mae Steve yn cadw y data dros y lle i gyd. Dw isio bod adre, gwatchio'r teledu neu darllen llyfr efo Catrin. Mae'n anodd iawn i wneud i fy ymennydd gweithio heddiw. Dw i jyst yn lladd cpwl o funudau drwy sgwennu e-bost i Justin Beaney, hen ffrind ysgol sy wedi sgwennu llyfr a fwynhais i'n llawer iawn. Mae'n od i'w ddarllen fo! Mae o wedi dweud wrtha i bod ei lyfr newydd yn fy nghynnwys fel cymeriad ffuglennol!

(Leave a comment)

November 17th, 2005


09:11 pm
Beth amdanoch chi? Dach chi'n hapus i gyd? Oes unrhywyn yn darllen hyn?

(2 comments | Leave a comment)

09:03 pm - Ail ar bymtheg o Dachwedd
Wel, dyma fi eto, yn y swyddfa eto, yn gweithio ar Ffatri Ddawns (hehe). Mae'n edrych yn dda rwan, ond does dim llawer o amser i wneud gweddill y newidiau. O wel. Mae Harry, Derek a Rich yn gweithio ar y creadur, rhan o gen sy wedi rhoi i fi llawer o broblemau. Gobeithio y gan nhw fwy o lwc na i...

Duw, dw i'n swnio'n ddiflas. Dw i'n hapus, i ddeud y gwir. Byddwn i'n hapusach petasai'r prosiect wedi gorffen!

(Leave a comment)

September 19th, 2005


10:47 pm - Pedwerydd ar bymtheg o Fedi
Wel, dyma fi eto yn y swyddfa, yn gweithio ar y Prosiect o Uffern... dw i'm yn hoff o gemau dawnsio erbyn hyn achos rwyn ni wedi gwneud llawer ohonyn nhw, ac mae'r prosiect hon yn complete bastard, i siarad yn dechnegol.

(Leave a comment)

August 30th, 2005


12:23 pm - Degfed ar hugain o Awst
Paid a phoeni, dw i ddim wedi marw. Be' ydw i wedi bod yn gwneud? Wel, aethon ni i'r Steddfod dros dau ddiwrnod - a oedd e dim ond un rhan o'n gwyliau yng Nghymru! Oedd llawer o bobl yn meddwl bod ni wedi colli ei meddyliau i fynd ar ein gwyliau yma, ond cawson ni amser da iawn. Aethon ni i Gaerdydd, Portmeirion, yr Ardd Fotaneg Genedaethol... gwych! Oedd Catrin mewn drama Castaway eto, ond do'n i ddim ynddi achos o'n i rhy brysur. Oedd hi'n dda iawn ynddi, eniwe.

(Leave a comment)

July 20th, 2005


02:17 pm - Ugeinfed o Orffenaf
Buon ni yn Nolgellau dros y penwythnos diwethaf yn y Sesiwn Fawr. Gwych! Ond wimps oeddwn ni - aethon ni 'nol i'r gwesty pan oedd lot o bobl yn dod i'r maes, achos taw dim ond 4'9" ydy Catrin, a clostroffobig ydw i.

(1 comment | Leave a comment)

July 14th, 2005


11:25 am - Pedwerydd ar ddeg o Orfennaf
Mae Catrin wedi pasio ei Ph.D.! Dw i'n falch iawn ohoni - mae hi wedi gwneud lot o waith i'w gael. Heno, pryd o fwyd penblwydd Cat yn yr Agra - dyle fe fod yn dda. Yn newyddion arall, peidiwch â gweld War of the Worlds. Shite.

(Leave a comment)

July 4th, 2005


03:38 pm - Pedwerydd o Orffenaf
Rydw i yma o hyd, i fenthyg gair o Dafydd Iwan. Mae'r gwaith yn dal i fod yn brysur ond mae'r patrymwr yn well bob dydd. Ond dw i'n ysgrifennu mwy fyth o ddogfenau ar hyn o bryd. Oedd o'n rhyfedd iawn dros y penwythnos, achos fuodd Catrin yn Trieste... mae hi'n ol rwan, a dw i'n falch iawn ohono.

(Leave a comment)

June 1st, 2005


05:05 pm - Cyntaf o Fehefin
Wel, helo eto. Dw i ddim wedi bod yn ysgrifennu 'ma achos mod i wedi bod yn rhy brysur - ond dw i 'n meddwl y bydda i'n brysur am y dyfodol rhagweladwy. Felly bod rhaid i fi sgwennu 'ma pan dw i'n gallu.

Heh - dw i'n sgwennu am ddim ond sut dw i ddim yn gallu sgwennu 'ma, ar hyn o bryd!

Dw i'n credu bod y cwmni eisiau troi ei gilydd yn alcoholig - does dim diod yn yr oergell ond cwrw.. Aha, mae'r bocsiau bwyd wedi cyrraedd!

(Leave a comment)

May 6th, 2005


09:31 am
'Sdim amser gen i i sgwennu 'ma ar hyn o bryd, ac ar fy mlog Saesneg arall hefyd, i ddweud y gwir. Oedd yr etholiad neithiwr a dydw i ddim yn hapus heddiw, achos mae Simon Thomas wedi colli ei sedd.

(Leave a comment)

April 20th, 2005


05:40 pm - Ugeinfed o Ebrill
Penblwydd Catrin heddiw, ond does gen i ddim digon o amser i gael unrhywbeth yn neis iddi hi. Dw i'n teimlo'n euog iawn. Bydd rhaid i ni fynd allan i bryd o fwyd neis. Dw i wedi rhoi CD a llyfr iddi hi'n barod, ac mae mwy o bethau ar ein ffordd, ond doedden nhw ddim yn ddigon eto, dw i'n teimlo.

Mwy o drafferth o Codies - mae nhw'n gofyn am y fersiwn NTSC. Ond mae'n dda, yn wir, achos mod i wedi ffeindio allan bod y timer routines ddim yn weithio. Mae'n rhyfedd iawn. Dw i wedi'i fficsio fe, ond dydy'r trac Pixies ddim yn gweithio rwan. Wel, mae'n gweithio ar sistem Steve ond dim 'ma.

Reit, dress rehearsal heno!

(Leave a comment)

April 19th, 2005


04:11 pm - Pedwerydd ar bymtheg o Ebrill
Eto, dw i ddim wedi sgwennu digon yma. Dw i'n meddwl y bydda i'n defnyddio hwn fel dyddiadur achos bod fy nghof fi yn ofnadwy!

Wel, neithiwr naethon ni'r ail run-through o Ubu Enchained. Mae'n well na'r cyntaf! Falle y bydd e ddim yn rhy drwg. Gobeithio. Bore ma oedd rhaid i fi fynd â nghar i'r garej i gael ei MOT fo. Pan oeddwn i gyrraedd y swyddfa, wel. Mae C's yn anfon llawer o ebost i ni, gormod i'u ateb nhw! Yn arbennig pan dw i'n ceisio ysgrifennu'r gêm ei hun.

Gobeithio y bydden nhw'n colli'r creadur o'r gêm. Eniwe, y tir yw fy mhroblem rwan, a'r particle system wedyn.

(Leave a comment)

April 1st, 2005


12:42 pm - Cyntaf o Ebrill
Da iawn - mae Semagic yn weithio eto. Oedd y proxy yn anghywir. Cawson ni neges o Codemasters eto ddoe.. arghh - mae nhw'n chwarae silly buggers eto, nhw eisiau'r lleuad ar ffon! Felly bydd rhaid i ni weithio yn fwy fel lunatics, os mae e'n bosib.

(Leave a comment)

March 29th, 2005


04:26 pm - Nawfed ar hugain o Fawrth
Yn ôl, wedi ymweld â fy rhieni yng Ngheint. Mae'n dda i fyw mewn gwlad sy'n lle poblogaidd i fynd am wyliau - doedd dim traffig ar y ffordd pan adawon ni a phan aethon ni 'n ôl, ond oedd llawer yn y ffordd arall!

Hefyd, bydd rhaid i fi ddweud wrth fy rhieni cyn i ni fynd yno eto! Oedden nhw'n syn iawn pan cyraeddon ni..

(Leave a comment)

> previous 20 entries
> Go to Top
LiveJournal.com